Cymraeg yn y Gweithle - yn y Canolbarth
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru yn darparu amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg yn y Gweithle (CyyG) ar draws y rhanbarth, a hynny i gwmnϊau cyhoeddus a phreifat, i Gynghorau Sir ac i golegau. Mae’r ddarpariaeth yma yn wahanol i’n darpariaeth arferol yn y gymuned gan ein bod yn gorfod cynnig gwasanaeth sydd yn ymateb i anghenion cyflogwyr a dysgwyr gwahanol. Yn draddodiadol mae yna brif gyflogwyr cyhoeddus yn y rhanbarth, megis y Cynghorau Sir, y colegau a’r Brifysgol, a chwmnϊau megis banciau mawr. Oherwydd natur wledig y rhanbarth, mae canran uchel hefyd o gwmnϊau bychain yn y rhanbarth, ac anodd iawn yw targedu’r rhain fel cyrff unigol. Rhaid ceisio ymateb yn hyblyg i ddyheadau’r gweithleoedd gwahanol – pryd byddan nhw eisiau darpariaeth, beth yw lefelau iaith y dysgwyr, at ba bwrpas y mae’r gweithwyr yn dysgu’r iaith, ac at ba lefel maent eisiau dysgu? Mewn cyfnod o gyni economaidd, mae gan gyflogwyr flaenoriaethau gwahanol, a rhaid ceisio dangos i’r cyflogwyr yma sut yn union y mae dysgu’r iaith yn bwysig fel rhan o ddatblygiad unigolion a datblygiad y cwmni neu gorff.
Yn y Canolbarth, rydyn ni’n darparu cyrsiau o wahanol hyd a natur i nifer o gyflogwyr lleol. Mae’r rhan fwyaf o’r dosbarthiadau ar lefel dechreuwyr. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn darpariaeth ar lefelau Mynediad a Chanolradd – maen nhw’n cynnal y dosbarthiadau rhwng 8.30 – 9.30 yb, sydd yn caniatáu i’r gweithwyr beidio â cholli gormod o’r diwrnod gwaith. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal sesiynau pontio ar gyfer y dysgwyr hynny sydd yn y dosbarthiadau yn y gweithle ac yn y gymuned, sydd yn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith o fewn y gweithle.
Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn hyfforddiant o ddwy awr bob wythnos yn y gweithle. Yn 2008-2009, arbrofwyd gyda chynnal dosbarth bloc o wythnos, gyda sesiynau ymarfer diwrnod o hyd wedi’u rhannu dros y flwyddyn. Roedd y cwrs yn llwyddiannus, ond oherwydd y colli oriau gwaith a ddigwyddodd yn sgil y cwrs, penderfynwyd y byddai cynnal y cwrs fesul dwy awr yr wythnos yn fwy derbyniol i reolwyr llinell. Mae’r Cyngor hefyd yn derbyn hyfforddiant i athrawon yn Llanfair-ym-Muallt, ac mae gwaith ar droed i gynnal hyfforddiant i gogyddion ysgol yng ngogledd y sir. Eto, oherwydd natur wledig y sir, rhaid cynnal yr hyfforddiant hwn mewn lle canolog.
Un o’r cyflogwyr mwyaf yn y rhanbarth yw’r Byrddau Iechyd. Mae tri Bwrdd Iechyd yn y rhanbarth, a thros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Powys i ddatblygu darpariaeth yn yr ardaloedd hyn. Mae Bwrdd Iechyd Powys, er enghraifft, yn cyflogi dros 2,000 o bobl ac, oherwydd eu Cynllun Iaith, maent wedi ymrwymo i ddarparu dosbarthiadau Cymraeg i’w gweithwyr. Serch hynny, mae’r Byrddau yn enghraifft wych o’r math o anawsterau sydd yn wynebu gweithleoedd wrth geisio cynnal unrhyw hyfforddiant yn y gweithle. Mae oriau’r gweithwyr yn hyblyg ac mae ganddynt anghenion gwahanol o safbwynt yr iaith. Serch hynny, mae’r Gymraeg yn hollbwysig i sefydliadau fel y Byrddau Iechyd. Mae’r Byrddau wedi dangos tipyn o ddiddordeb mewn cynnal darpariaeth cyfunol, ac fel Canolfan, rydyn ni’n edrych i’r posibilrwydd o greu darpariaeth o’r fath. Yn y cyfamser, mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Powys am gynnal dosbarthiadau mewn tri safle ar y cyd, dau yn ne’r sir, ac un yn y gogledd. Mae’r Ganolfan hefyd yn cydweithio â Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Hywel Dda i greu cyfres o bodlediadau ar gyfer gweithwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd – e.e. beth mae nyrs yn ei ddweud wrth ymyl gwely claf, sut mae torri newyddion drwg, a sut mae ynganu geiriau arbennig. Y gobaith yw y medr gwahanol weithwyr mewn ysbytai a meddygfeydd ddefnyddio’r podlediadau fel arweiniad i sefyllfaoedd gwahanol.
Mae‘r maes Cymraeg yn y Gweithle yn tyfu’n barhaus ac edrychwn ymlaen at fwy o ddatblygiadau eto fydd yn sicrhau bod mwy a mwy o’r gweithlu cenedlaethol yn meddu ar rywfaint o sgiliau iaith.